Côr Merched y Penrhyn 1901 - 1903


Gan Caleb Rhys Jones caleb.rhys.jones@gmail.com


Ffynhonnell: Bangor Civic Society. Rhodd gan Colin Parfitt, Somerset.

Ffynhonnell: Bangor Civic Society. Rhodd gan Colin Parfitt, Somerset.


Gellir dadlau bod hanes Streic Fawr y Penrhyn (1900-1903) yn cael ei adrodd o safbwynt gwrywaidd – y Lord a’i chwarel, y streicwyr a’r bradwyr, y meistr a’i weision. Mae’r chwarelwyr mor amlwg i ni yn yr hanes nes ein bod yn tueddu i anghofio am y merched a’r teuluoedd a effeithiwyd arnynt gan y streic. Mae hanes Côr Merched y Penrhyn, neu’r Penrhyn Welsh Ladies Choir, yn un enghraifft o ymdrechion merched yr ardal i leddfu effaith y streic ar deuluoedd Dyffryn Ogwen.

Sefydlwyd y côr merched yn ystod Gwanwyn 1901 ar gais Pwyllgor Cronfa Streic y Penrhyn, a dechreuodd y côr gynnal cyngherddau ym mis Mai y flwyddyn honno. Roedd yna ddau gôr meibion eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gynnal cyngherddau elusennol ar ran y pwyllgor yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Corau’r streic oedd rhain, a dreuliodd yn agos i dair mlynedd yn cynnal cannoedd o gyngherddau. Roedd y cyfraniad yn un clodwiw a fu’n gymorth a chefn i gynhaliaeth degau o deuluoedd yn eu hymdrech i wrth-sefyll caledni’r streic.

Darllen mwy