merched chwarel day 1 (1 of 4).jpg

Am y Prosiect - About the Project


Hanes Merched Chwarel

Y mae Merched Chwarel yn gydweithrediad rhwng yr artistiaid Marged Pendrell, Jwls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne, sydd a'u gwaith yn gysylltiedig â chwareli Gogledd Cymru lle maent yn byw ac yn gweithio. Dechreuasom weithio gyda'n gilydd yn 2016.

Ariannwyd ein cyfnod Ymchwil a Datblygu (Ionawr - Ebrill 2017) gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gan gymryd ein tro i arwain taith gerdded mewn chwarel,  buom yn arbrofi gyda gwaith unigol a chydweithredol mewn amrywiaeth o gyfryngau. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau Amgueddfa Lechi Llanberis er mwyn rhannu'r gwaith fel y bu’n datblygu. Gallwch ddarllen ein blog o'r  cyfnod cynraf trwy’r linc gyferbyn.

The history of Merched Chwarel

Merched Chwarel is a collaboration between artists Marged Pendrell, Jwls Williams, Lisa Hudson and Lindsey Colbourne, whose work is connected to the quarries of North Wales where we each live and work. We started working together in 2016.

Our Research & Development phase (Jan - April 2017), was funded by Arts Council Wales. Taking it in turns to host a walk in a quarry, we experimented with individual and collaborative works in a variety of media, and held a number of events to share works in progress, at Amgueddfa Llechi Llanberis.  You can read our blog from the R&D phase here

 


Arddangosfeydd 2019

Rydym, ar hyn o bryd, yn gweithio ar bum arddangosfa o weithiau newydd ar gyfer safleoedd penodol. Rydym yn falch iawn fod y curadur Jill Percy wedi ymuno â ni i'w creu! Cynhelir yr arddangosfeydd rhwng Mawrth a Thachwedd 2019 yn Storiel, Bangor (gan gynnwys arddangosfeydd lloeren mewn pum lleoliad allgymorth), Amgueddfa Lechi Cymru, Castell Penrhyn, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, a Cheudyllau Llechi Llechwedd.

Bydd yr arddangosfeydd, ynghyd â'r broses datblygu artistig unigol a chydweithredol, yn cynnwys gwaith celf newydd yn ymateb i'r cwestiwn:

'Pwy ydym ni, y Merched Chwarel o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol?

Sut mae ein hestheteg, hunaniaeth a chysylltiad â lle, ein cynefin, diwylliant ac iaith, wedi ei gyfryngu gan y chwareli?'

 Gweld mwy yma

Exhibitions in 2019

We are now working on creation of five curated, site-specific exhibitions of new works. To create these exhibitions, we are delighted to have been joined by curator, Jill Piercy. The exhibitions, between March and November 2019, will be held in Storiel, Bangor (including satellite cabinet ‘taster’ displays in 5 outreach locations), and in Amgueddfa Llechi Cymru, Castell Penrhyn and Llyfrgedd Blaenau Ffestiniog, Llechwedd Slate Caverns.

The exhibitions, and the individual and collaborative artistic development process from the end of March 2018, will comprise new art works in response to the question:

‘Who are we, the Merched Chwarel of the past, present and future?

How are our aesthetics, identity and connection to place, culture and language mediated by the quarries?’

See the results here


Ymgysylltiad ehangach

Yn ogystal â chanolbwyntio ar ein proses artistig unigol a chydweithredol, yr ydym eisiau ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl - o aelodau cynhenid a mewnfudwyr i’r cymunedau chwarelyddol a phobl sy'n gweithio yn y diwydiant chwareli, i’r gymuned greadigol ac ymwelwyr i'r ardal. Hyn yn ogystal â mentrau a sefydliadau sy'n gysylltiedig â diwydiant chwareli'r gorffennol a'r presennol. Gweld mwy yma

Datgelodd ein cyfnod Ymchwil a Datblygu fod y pwnc Merched Chwarel, a’n defnydd o ofodau anffurfiol i arddangos gwaith, yn ffyrdd effeithiol o ymgysylltu â phobl a mentrau nad ydynt fel arfer yn gyfforddus mewn oriel gelf ffurfiol. Dangosodd hefyd fod y prosiect ei hun o ddiddordeb - gan adlewyrchu traddodiad hir o gydweithrediad rhwng menywod yn yr ardal, a'r diddordeb cyfoes mewn ffyrdd newydd o weithio.

Dewch i wybod mwy am ein teulu Merched Chwarel o bartneriaid, lleoliadau a chefnogwyr, ac / neu ymuno â hwy. Dewch i wybod am straeon Merched Chwarel y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yma, neu gyfrannu atynt (straeon personol efallai, straeon perthnasau, pobl yr ydych wedi clywed amdanynt – boed yn wir, yn ddychmygol neu'n chwedlonol). )

Porwch drwy’r delweddau, y sain a’r testunau sydd yn ein Horiel, neu cyfrannwch iddynt.
Darganfyddwch am ddigwyddiadau yma.

Cofrestrwch i’n blog i dderbyn y newyddion diweddaraf (tua dwywaith y mis).

Wider engagement

As well as focusing on our individual and collaborative artistic process, we want to engage a wide range of people – from indigenous and incomer members of quarrying communities and people working in the quarry-related industry to the creative community and visitors to the area – as well as initiatives and organisations linked to the quarry industry past and present. See more here

Our R&D showed that the subject matter – Merched Chwarel – and our use of non-formal gallery spaces are effective ways of engaging with people and initiatives not usually comfortable in a formal art gallery context. It also showed that our collaboration itself is of interest, reflecting a long tradition of cooperation between women in the area, and the contemporary interest in new ways of working.

Find out about - and/or join - our Merched Chwarel family of partners, venues, supporters

Find out about - or contribute to - the stories of Merched Chwarel past, present and future here (these maybe personal stories, stories of relatives, people you have heard of - they can be 'real', imagined or legendary...)

Browse or contribute images, sound and text works to our Oriel/Gallery

Find out about events here

Sign up to our blog to receive updates (about twice a month)